Job 15:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim digon?Mae ei eiriau mor garedig a thyner.

12. Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli?Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio.

13. Sut alli di golli dy dymer gyda Duw,a gadael i'r fath eiriau groesi dy wefusau!

14. Sut all person meidrol fod yn lân?Neu un wedi ei eni o wraig honni mai fe sy'n iawn?

15. Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion,a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg,

16. sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig,sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr!

17. Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando.Gwna i ddweud beth dw i wedi ei weld –

18. pethau mae dynion doeth wedi eu dangos;pethau wedi eu dysgu gan eu tadau,

19. Cafodd y tir ei roi iddyn nhw,a doedd pobl estron ddim yn eu plith nhw.

20. Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd;a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd.

21. Mae'n clywed sŵn sy'n ei fygwth o hyd,a phan mae bywyd yn braf mae'r dinistrydd yn dod.

22. Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch;ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd.

23. Mae'n crwydro – bydd yn fwyd i fwlturiaid;ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod.

Job 15