Job 15:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

2. “Ydy dyn doeth yn ateb drwy falu awyr?Ti'n llawn o wynt poeth y dwyrain!

3. Ydy e'n dadlau ei achos drwy siarad lol,a defnyddio dim ond geiriau gwag?

4. Dwyt ti'n dangos dim parch at Dduw,ac yn rhwystro eraill rhag myfyrio arno!

5. Dy bechod sy'n gwneud i ti ddweud y fath bethau;rwyt ti mor gyfrwys yn y ffordd ti'n siarad.

6. Dy eiriau dy hun sy'n dy gondemnio – nid fi;mae dy geg yn tystio yn dy erbyn di!

7. Ai ti oedd y dyn cyntaf i gael ei eni?Oeddet ti'n bodoli cyn y bryniau?

8. Oeddet ti wedi clustfeinio ar gyfrinachau Duw?Ai ti ydy'r unig un doeth?

9. Beth wyt ti'n ei wybod fwy na ni?Beth wyt ti'n ei ddeall nad ydyn ni'n ei ddeall?

10. Mae oedran a gwallt gwyn o'n plaid ni –dw i wedi byw yn hirach na dy dad!

11. Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim digon?Mae ei eiriau mor garedig a thyner.

12. Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli?Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio.

13. Sut alli di golli dy dymer gyda Duw,a gadael i'r fath eiriau groesi dy wefusau!

14. Sut all person meidrol fod yn lân?Neu un wedi ei eni o wraig honni mai fe sy'n iawn?

Job 15