Job 14:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae gobaith i goeden dyfu etoar ôl cael ei thorri i lawr.Fydd ei blagur newydd ddim yn methu.

8. Er bod ei gwreiddiau'n hen yn y pridd,a'i boncyff wedi dechrau pydru,

9. mae'n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto,a'i brigau'n tyfu fel petai newydd ei phlannu.

10. Ond mae'r dyn cryfaf yn marw heb gryfder;mae'n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd.

11. Fel dŵr yn diflannu o lyn,neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu.

12. Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi;Fydd dim deffro na chodi o'u cwsgtra bydd yr awyr yn dal i fod.

13. O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd,a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio;yna gosod amser penodol i'm cofio i eto.

14. Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto?Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyli rywun ddod i'm rhyddhau.

15. Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod;byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.

16. Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam,heb wylio am fy mhechod o hyd.

17. Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi ei selio,a'm pechod wedi ei guddio dan orchudd.

Job 14