Job 14:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Byr ydy bywyd dyn, wedi ei eni o wraig,ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.

2. Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo;mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.

3. Ai ar un felly wyt ti'n syllu?Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?

4. Pwy all wneud yr aflan yn lân?Does neb!

5. Mae dyddiau rhywun wedi eu rhifo;ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n bywac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.

6. Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo,fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith.

Job 14