1. Byr ydy bywyd dyn, wedi ei eni o wraig,ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.
2. Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo;mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.
3. Ai ar un felly wyt ti'n syllu?Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?
4. Pwy all wneud yr aflan yn lân?Does neb!
5. Mae dyddiau rhywun wedi eu rhifo;ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n bywac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.