17. Gwrandwch yn ofalus arna i;clywch beth sydd gen i i'w ddweud.
18. Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad,a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.
19. Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbynbyddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.
20. Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw,fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:
21. Tynn dy law yn ôl,a stopia godi dychryn arna i.
22. Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb;neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.
23. Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu?Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di.
24. Pam wyt ti'n cuddio oddi wrtho i?Pam wyt ti'n fy nhrin i fel gelyn?
25. Pam pryfocio deilen sy'n cael ei chwythu gan wynt?Pam rhedeg ar ôl us wedi sychu?
26. Rwyt wedi dyfarnu cosb chwerw i mi,a gwneud i mi dalu am gamgymeriadau fy ieuenctid.
27. Rwyt ti wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud –rwyt ti'n marcio pob cam dw i'n ei gymryd.