Job 12:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ond dw i wedi troi yn destun sbort i'm ffrindiau –ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb.Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!

5. Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion –‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’

6. Ond mae lladron yn cael bywyd braf,a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff –ac yn cario eu duw yn eu dwylo!

7. Ond meddwch chi:‘Gofyn i'r anifeiliaid – byddan nhw'n dy ddysgu;neu i'r adar – byddan nhw'n dweud wrthot ti.

8. Neu gofyn i'r ddaear – bydd hi'n dy ddysgu,ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.

9. Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybodmai Duw sydd wedi gwneud hyn?

10. Yn ei law e mae bywyd pob creadurac anadl pob person byw.

11. Ydy'r glust ddim yn profi geiriaufel mae'r geg yn blasu bwyd?

12. Onid pobl mewn oed sy'n ddoeth,a'r rhai sydd wedi byw'n hir sy'n deall?’

13. Duw ydy'r un doeth a chryf;ganddo fe y mae cyngor a deall.

14. Does dim ailadeiladu beth mae e wedi ei chwalu;na dianc i'r sawl mae e wedi ei garcharu.

Job 12