5. Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol?Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6. Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau ia cheisio dod o hyd i'm pechod?
7. Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog,ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8. Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu,ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
9. Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10. Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth,a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
11. Gwisgaist fi â chnawd a chroen,a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.
12. Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i –dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw.
13. Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn.Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
14. Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu,ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
15. Os ydw i'n euog – mae ar ben arna i!Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen;dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
16. Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew,i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!