1. Mae'n gas gen i orfod byw!Ydw, dw i'n mynd i gwyno,a dweud mor chwerw dw i'n teimlo.
2. Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos!Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’
3. Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl?Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo,a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
4. Wyt ti'n edrych ar bethau trwy lygaid dynol?Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
5. Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol?Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6. Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau ia cheisio dod o hyd i'm pechod?
7. Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog,ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8. Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu,ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
9. Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10. Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth,a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
11. Gwisgaist fi â chnawd a chroen,a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.