Jeremeia 9:25-26 beibl.net 2015 (BNET)

25. “Gwyliwch!” meddai'r ARGLWYDD. “Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi'r rhai sydd ond wedi cael enwaediad corfforol –

26. pobl yr Aifft, Jwda, Edom, Ammon, Moab, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Does dim un ohonyn nhw wedi eu henwaedu go iawn, a dydy calon pobl Israel ddim wedi ei henwaedu go iawn chwaith.”

Jeremeia 9