7. Mae'r crëyr yn gwybod pryd i ymfudo,a'r durtur, y wennol a'r garan.Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o'r flwyddyn.Ond dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylwo'r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw.
8. Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni'n ddoeth,mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni.”?Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethausy'n gwyrdroi beth mae'n ei ddweud go iawn.
9. Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n syfrdan wrth gael eu cymryd i'r ddalfa.Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD –dydy hynny ddim yn ddoeth iawn!
10. Felly bydda i'n rhoi eu gwragedd i ddynion eraill,a'u tir i'w concwerwyr.Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest –y bobl gyffredin a'r arweinwyr.Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid –maen nhw i gyd yn twyllo!
11. Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag.“Bydd popeth yn iawn,” medden nhw;Ond dydy popeth ddim yn iawn!
12. Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth!Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd.Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido!Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall.Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.