10. Felly bydda i'n rhoi eu gwragedd i ddynion eraill,a'u tir i'w concwerwyr.Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest –y bobl gyffredin a'r arweinwyr.Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid –maen nhw i gyd yn twyllo!
11. Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag.“Bydd popeth yn iawn,” medden nhw;Ond dydy popeth ddim yn iawn!
12. Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth!Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd.Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido!Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall.Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
13. “Pan oeddwn i eisiau casglu'r cynhaeaf,” meddai'r ARGLWYDD“doedd dim grawnwin na ffigys yn tyfu ar y coed.Roedd hyd yn oed y dail ar y coed wedi gwywo.Roedden nhw wedi colli popeth rois i iddyn nhw.”
14. “Pam ydyn ni'n eistedd yma yn gwneud dim?Gadewch i ni ddianc i'r trefi caerog, a marw yno.Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi ein condemnio ni i farwolaeth.Mae e wedi gwneud i ni yfed dŵr gwenwynigam ein bod wedi pechu yn ei erbyn.
15. Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn,ond i ddim pwrpas;roedden ni'n edrych am amser gwell,ond dim ond dychryn gawson ni.
16. Mae sŵn ceffylau'r gelyn yn ffroeni i'w glywed yn Dan.Mae pawb yn crynu mewn ofn wrth glywed y ceffylau'n gweryru.Maen nhw ar eu ffordd i ddinistrio'r wlad a phopeth sydd ynddi!Maen nhw'n dod i ddinistrio'r trefi, a phawb sy'n byw ynddyn nhw.”
17. “Ydw, dw i'n anfon byddin y gelyn i'ch plith chi,fel nadroedd gwenwynig all neb eu swyno.A byddan nhw'n eich brathu chi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
18. “Dw i wedi fy llethu gan dristwch.Dw i'n teimlo'n sâl.
19. Gwrandwch ar fy mhobl druan yn gweiddiar hyd a lled y wlad:‘Ydy'r ARGLWYDD wedi gadael Seion?Ydy ei Brenin hi ddim yno bellach?’”“Pam maen nhw wedi fy nigio igyda'u heilunod a'u delwau diwerth?
20. ‘Mae'r cynhaeaf heibio, mae'r haf wedi dod i ben,a dŷn ni'n dal ddim wedi'n hachub,’ medden nhw.”
21. Dw i'n diodde wrth weld fy mhobl annwyl i'n diodde.Dw i'n galaru. Dw i'n anobeithio.