17. “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi.Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb.Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.
18. Felly chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn.Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.
19. Gwranda dithau ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma.Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio.Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud,ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw.
20. Beth ydy'r pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi,neu sbeisiau persawrus o wlad bell?Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i'w llosgi,a dydy'ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.”
21. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i osod cerrig o'u blaenau nhw,i wneud i'r bobl yma faglu a syrthio.Bydd rhieni a phlant,cymdogion a ffrindiau yn marw.”
22. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae gwlad gref ym mhen draw'r byd yn paratoi i ryfel.
23. Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf;maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.”
24. “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw,Does dim byd allwn ni ei wneud.Mae dychryn wedi gafael ynon nifel gwraig mewn poen wrth gael babi.
25. Paid mentro allan i gefn gwlad.Paid mynd allan ar y ffyrdd.Mae cleddyf y gelyn yn barod.Does ond dychryn ym mhobman!”
26. “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw.Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw –dyna'r golled fwya chwerw!Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!”
27. “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl,fel un sy'n profi safon metel.Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
28. “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau,ac mor galed â haearn neu bres.Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr!
29. Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi.Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud.Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno.
30. ‛Arian diwerth‛ ydy'r enw arnyn nhw,am fod yr ARGLWYDD wedi eu gwrthod nhw.”