16. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dych chi'n sefyll ar groesffordd,felly holwch am yr hen lwybrau –sef y ffordd sy'n arwain i fendith.Ewch ar hyd honno,a cewch orffwys wedyn.”Ond ymateb y bobl oedd “Na, dim diolch!”
17. “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi.Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb.Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.
18. Felly chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn.Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.
19. Gwranda dithau ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma.Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio.Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud,ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw.