Jeremeia 6:11-18 beibl.net 2015 (BNET)

11. Fel ti, dw i'n hollol ddig gyda nhw, ARGLWYDD;alla i ddim ei ddal yn ôl.”“Felly tywallt dy ddig ar y plant sy'n chwarae ar y stryd,ac ar y criw o bobl ifanc.Bydd cyplau priod yn cael eu cymryd i ffwrdd,y bobl hŷn a'r henoed.

12. Bydd eu tai yn cael eu rhoi i'r gelynion,a'u caeau, a'u gwragedd hefyd!Dw i'n mynd i daro pawb sy'n byw yn y wlad yma!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

13. “Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest –y bobl gyffredin a'r arweinwyr.Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid –maen nhw i gyd yn twyllo!

14. Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag.‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw;Ond dydy popeth ddim yn iawn!

15. Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth!Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd.Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido!Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall.Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

16. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dych chi'n sefyll ar groesffordd,felly holwch am yr hen lwybrau –sef y ffordd sy'n arwain i fendith.Ewch ar hyd honno,a cewch orffwys wedyn.”Ond ymateb y bobl oedd “Na, dim diolch!”

17. “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi.Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb.Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.

18. Felly chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn.Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.

Jeremeia 6