Jeremeia 6:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bobl Benjamin, ffowch i le saff!A dianc o ganol Jerwsalem!Chwythwch y corn hwrdd yn Tecoa,a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl.Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth.

2. Mae Seion hardd fel porfa hyfryd,

3. ond daw byddin iddi fel bugeiliaid yn arwain eu praidd.Byddan nhw'n codi eu pebyll o'i chwmpas,a bydd yn cael ei phori nes bydd dim ar ôl!

4. ‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn!Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’‘Hen dro, mae'n dechrau nosi –mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’

5. ‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos,a dinistrio ei phalasau yn llwyr.’

6. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:‘Torrwch goed a chodi ramp i ymosod ar ei waliau.Hi ydy'r ddinas sydd i'w chosbi;does dim byd ond gormes ynddi!

7. Mae rhyw ddrwg yn tarddu ohoni'n ddi-baid,fel dŵr yn llifo o ffynnon.Sŵn trais a dinistr sydd i'w glywed ar ei strydoedd;a dw i'n gweld ond pobl wedi eu hanafu ym mhob man.’

8. Felly dysga dy wers, Jerwsalem!Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr.Fydd neb yn byw ynot ti!”

9. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi eu gadael ar ôl.Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waithi wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi ei adael.”

10. “Ond pwy sy'n mynd i wrandohyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw?Maen nhw'n gwrthod gwrando.Dŷn nhw'n cymryd dim sylw!Mae dy neges, ARGLWYDD, yn jôc –does ganddyn nhw ddim eisiau ei glywed!

Jeremeia 6