Jeremeia 51:45-53 beibl.net 2015 (BNET)

45. Dewch allan ohoni, fy mhobl!Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi!A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr ARGLWYDD!

46. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofnpan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad.Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn,ac un arall y flwyddyn wedyn.Bydd trais ofnadwy yn y wlad,wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd.

47. Mae'r amser yn dodpan fydda i'n cosbi eilun-dduwiau Babilon.Bydd y wlad i gyd yn cael ei chywilyddio,a bydd pobl yn syrthio'n farw ym mhobman.

48. Bydd y nefoedd a'r ddaear a phopeth ynddyn nhwyn canu'n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon.Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i'w dinistrio nhw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

49. “Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel,ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy'r byd i gyd.”

50. Chi bobl wnaeth lwyddo i ddiancrhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon,ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran!Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell.Meddyliwch am Jerwsalem.

51. “Mae gynnon ni gywilydd;dŷn ni wedi cael ein sarhau.Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau.Aeth paganiaid i mewni'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.”

52. “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw,a bydd pobl wedi eu hanafu yn griddfan mewn poendrwy'r wlad i gyd.

53. Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i'r awyr,a'i chaerau'n anhygoel o gryfion,byddwn i'n anfon byddin i'w dinistrio hi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Jeremeia 51