12. “Rhowch yr arwydd i ymosodar waliau Babilon!Dewch â mwy o filwyr!Gosodwch wylwyr o'i chwmpas!Paratowch grwpiau i ymosod arni!”Mae'r ARGLWYDD yn mynd i wneudbeth mae wedi ei gynllunio yn erbyn pobl Babilon.
13. “Ti'n byw yng nghanol yr afonydd a'r camlesi.Rwyt wedi casglu cymaint o drysorau.Ond mae dy ddiwedd wedi dod;mae edau dy fywyd ar fin cael ei dorri!”
14. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo ar lw,“Dw i'n mynd i lenwi'r wlad â milwyr y gelyn.Byddan nhw fel haid o locustiaid ym mhobman.Byddan nhw'n gweiddi'n llawenam eu bod wedi ennill y frwydr.”
15. Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear.Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb,a lledu'r awyr trwy ei ddeall.
16. Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu.Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel.Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw.Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
17. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd!Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw.Duwiau ffals ydy'r delwau;does dim bywyd ynddyn nhw.
18. Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw!Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.