Jeremeia 51:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i ddod â corwynt dinistriol yn erbyn Babilon,ac yn erbyn y bobl sy'n byw yn Babilonia.

2. Bydda i'n anfon pobl estron i'w nithio;bydd fel gwynt yn chwythu'r us i ffwrdd.Bydd y wlad yn cael ei gadael yn wag.Byddan nhw'n ymosod o bob cyfeiriadar y diwrnod hwnnw pan fydd pethau'n ddrwg arni.

3. Peidiwch rhoi cyfle i'r bwasaethwr roi llinyn ar ei fwa;nac amser iddo roi ei arfwisg amdano.Lladdwch y bechgyn ifanc i gyd!Dinistriwch y fyddin yn llwyr!”

4. Bydd pobl Babilon yn syrthio'n farw,wedi eu hanafu ar strydoedd y ddinas.

5. Dydy Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus,ddim wedi troi cefn ar Israel a Jwda.Mae gwlad Babilonia yn euogo bechu yn erbyn Un sanctaidd Israel!

6. Ffowch o ganol Babilon!Rhedwch am eich bywydau bawb!Does dim rhaid i chi ddiodde am ei bod hi'n cael ei chosbi.Mae'r amser wedi dod i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iddi.Bydd yn rhoi iddi beth mae'n ei haeddu!

7. Roedd Babilon fel cwpan aur yn llaw'r ARGLWYDD.Roedd wedi gwneud y byd i gyd yn feddw.Roedd gwledydd wedi yfed y gwin ohoni,ac wedi eu gyrru'n wallgof.

Jeremeia 51