Jeremeia 50:37-44 beibl.net 2015 (BNET)

37. Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel.Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi,a byddan nhw'n wan fel merched!Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau,a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.

38. Bydd sychder yn taro'r wlad,a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben!Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiaua delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof!

39. Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrysfydd yn byw yn Babilon.Fydd pobl yn byw yno byth eto –neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.

40. Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorraa'r pentrefi o'u cwmpas.Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

41. “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r bydyn paratoi i ryfel.

42. Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyfmaen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.”

43. Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw.Does dim byd allith e ei wneud.Mae dychryn wedi gafael ynddo,fel gwraig mewn poen wrth gael babi.

44. “Bydda i'n gyrru pobl Babilon o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”

Jeremeia 50