13. Am fod yr ARGLWYDD wedi digiofydd neb yn cael byw yno –bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr.Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi eu syfrdanu,ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi.
14. “Pawb i'w le, yn barod i ymosod ar Babilon!Dewch, chi sy'n trin y bwa saeth,saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd!Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.
15. Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad.Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio.Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio,a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni.Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill!
16. Bydd y rhai sy'n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon;a'r rhai sy'n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd.Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain,a dianc i'w gwledydd rhag i'r gelyn eu lladd.”
17. Mae Israel fel praidd wedi ei yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn!
18. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi brenin Babilon a'i bobl, fel gwnes i gosbi brenin Asyria.
19. Bydda i'n dod â phraidd Israel yn ôl i'w borfa ei hun. Byddan nhw'n pori ar fynydd Carmel ac yn ardal Bashan. Byddan nhw'n cael eu digoni ar fryniau Effraim ac yn ardal Gilead.