12. Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio'n fawr,a'r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo'r gwarth.I ddweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o'r gwledydd i gyd!Bydd hi'n anialwch sych a diffaith.”
13. Am fod yr ARGLWYDD wedi digiofydd neb yn cael byw yno –bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr.Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi eu syfrdanu,ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi.
14. “Pawb i'w le, yn barod i ymosod ar Babilon!Dewch, chi sy'n trin y bwa saeth,saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd!Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.
15. Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad.Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio.Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio,a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni.Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill!
16. Bydd y rhai sy'n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon;a'r rhai sy'n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd.Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain,a dianc i'w gwledydd rhag i'r gelyn eu lladd.”
17. Mae Israel fel praidd wedi ei yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn!