Jeremeia 50:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Babilon a gwlad Babilonia, drwy'r proffwyd Jeremeia:

2. “Cyhoeddwch y newyddion drwy'r gwledydd i gyd;peidiwch dal dim yn ôl.Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed ac yn deall:‘Mae Babilon yn mynd i syrthio!Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio!Bydd Merodach yn cael ei falu!Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio!Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu.

3. Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd.Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno.Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’

4. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.”Byddan nhw'n crïo wrth gerdded,ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto.

5. Byddan nhw'n holi am y ffordd i Seion,ac yna'n troi i'r cyfeiriad hwnnw.Byddan nhw'n ymrwymo i fod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD,a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio.

6. “Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll.Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd.Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd –crwydro o gopa un bryn i'r llall;wedi anghofio'r ffordd yn ôl i'r gorlan.

Jeremeia 50