Jeremeia 5:22-29 beibl.net 2015 (BNET)

22. Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD.‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o'm blaen i?Fi roddodd dywod ar y traethfel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi.Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo;er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio.

23. Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes;maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain.

24. Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud,“Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw.Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref;mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.”

25. Mae'ch drygioni wedi rhoi stop ar y pethau yma!Mae'ch pechodau chi wedi cadw'r glaw i ffwrdd.’

26. ‘Mae yna bobl ddrwg iawn ymhlith fy mhobl i.Maen nhw fel helwyr adar yn cuddio ac yn gwylio,ar ôl gosod trapiau i ddal pobl.

27. Fel caets sy'n llawn o adar wedi eu dal,mae eu tai yn llawn o enillion eu twyll.Dyna pam maen nhw mor gyfoethog a phwerus,

28. wedi pesgi ac yn edrych mor dda.Does dim pen draw i'w drygioni nhw!Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad,nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.

29. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?’ meddai'r ARGLWYDD.‘Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?’

Jeremeia 5