33. Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyro dir ffrwythlon Moab.Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau;fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin –bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.
34. “Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w glywed yn Eleale a hyd yn oed Iahats. Bydd i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.
35. Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd, ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.
36. “Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu yn diflannu.
37. “Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo a chyllyll, ac yn gwisgo sachliain.
38. Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac ar y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD.
39. “Bydd wedi ei dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.”