Jeremeia 42:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. A dyma nhw'n ateb Jeremeia, “Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn dyst yn ein herbyn os na wnawn ni yn union beth fydd e'n ei ddweud wrthon ni trwot ti.

6. Dŷn ni'n dy anfon di at yr ARGLWYDD ein Duw, a sdim ots os byddwn ni'n hoffi beth mae'n ei ddweud ai peidio byddwn ni'n gwrando arno. Os gwnawn ni hynny, bydd popeth yn iawn.”

7. Ddeg diwrnod wedyn dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Jeremeia.

8. Felly dyma Jeremeia yn galw am Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin, a gweddill y bobl – y bobl gyffredin a'r arweinwyr.

9. Yna dyma Jeremeia'n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'ch cais; a dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

10. ‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi.

11. Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod a'i ofn, achos dw i gyda chi, i'ch achub chi o'i afael.

12. Dw i'n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi trwy adael i chi fynd yn ôl i'ch tir.’

13. “Os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, a mynnu, ‘Na, dŷn ni ddim am aros yma,

14. dŷn ni am fynd i wlad yr Aifft i fyw. Fydd dim rhaid i ni wynebu rhyfel yno, a clywed sŵn y corn hwrdd yn ein galw i ymladd. Fydd dim rhaid i ni lwgu yno …’

15. Os dyna wnewch chi, dyma neges yr ARGLWYDD i chi sydd ar ôl o bobl Jwda. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Os ydych chi mor benderfynol o fynd i'r Aifft a setlo yno,

16. bydd y rhyfel dych chi'n ei ofni yn eich dilyn chi i wlad yr Aifft. Bydd y newyn dych chi'n poeni amdano yn dod ar eich hôl chi hefyd, a byddwch chi'n marw yno.

Jeremeia 42