10. Yna dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth – roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a cychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.
11. Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll oedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu gwneud,
12. dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
13. Roedd y bobl oedd Ishmael wedi eu cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e.
14. Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach.
15. Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a croesi drosodd i wlad Ammon.
16. Dyma Iochanan fab Careach, a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e, yn arwain y bobl oedd wedi eu hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon
17. dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft
18. i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.