Jeremeia 41:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd bwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.

2. Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.

3. Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.

4. Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi ei lofruddio,

Jeremeia 41