5. Os wyt ti am aros, dos yn ôl at Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) sydd wedi ei benodi gan frenin Babilon yn llywodraethwr dros drefi Jwda. Aros gydag e a'r bobl yno. Neu dos i ble bynnag arall rwyt ti eisiau.” Yna ar ôl rhoi bwyd ac arian i Jeremeia, dyma gapten y gwarchodlu brenhinol yn gadael iddo fynd.
6. A dyma Jeremeia yn mynd i Mitspa at Gedaleia fab Achicam. Arhosodd yno gyda'r bobl oedd wedi eu gadael ar ôl yn y wlad.
7. Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a'u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw'n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli'r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi eu gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon.
8. Felly dyma nhw'n mynd i gyfarfod Gedaleia yn Mitspa – Ishmael fab Nethaneia, Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr.
9. A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i'r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.