Jeremeia 40:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Bydda i'n aros yn Mitspa ac yn eich cynrychioli pan fydd y Babiloniaid yn dod i'n cyfarfod ni. Ewch chi i gasglu'r cynhaeaf grawnwin, y ffigys aeddfed a'r olew, a'i storio mewn jariau. Cewch setlo i lawr yn y trefi dych chi wedi eu cipio.”

11. Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw'n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a'i fod wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad.

12. Felly dyma'r bobl hynny i gyd yn dod adre i wlad Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi bod yn ffoaduriaid, a mynd i Mitspa i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw hefyd yn casglu cynhaeaf enfawr o rawnwin a ffigys.

13. Un diwrnod dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad yn mynd i Mitspa eto i gyfarfod Gedaleia.

14. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Baalis, brenin Ammon, wedi anfon Ishmael fab Nethaneia i dy lofruddio di?” Ond doedd Gedaleia ddim yn eu credu nhw.

15. Wedyn dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di yn mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!”

16. Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti'n ddweud am Ishmael ddim yn wir.”

Jeremeia 40