Jeremeia 4:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. Rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD,newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr.Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”

5. “Cyhoeddwch hyn yn Jwda,a dweud wrth bawb yn Jerwsalem:‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’Gwaeddwch yn uchel,‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’

6. Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian!Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd –trychineb ofnadwy!

7. Mae llew wedi dod allan o'i ffau!Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd.Mae'n dod i ddifetha'r wlad,a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw.

8. Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo:‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’”

9. “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”

Jeremeia 4