Jeremeia 4:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r ARGLWYDD“Ie, troi yn ôl!Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg ia stopio crwydro o hyn ymlaen.

2. Dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw,‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo eu bendithio nhw,a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.”

3. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi bobl Jwda a Jerwsalem:“Rhaid i chi drin y tir caled,a peidio hau had da yng nghanol drain.

4. Rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD,newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr.Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”

5. “Cyhoeddwch hyn yn Jwda,a dweud wrth bawb yn Jerwsalem:‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’Gwaeddwch yn uchel,‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’

6. Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian!Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd –trychineb ofnadwy!

7. Mae llew wedi dod allan o'i ffau!Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd.Mae'n dod i ddifetha'r wlad,a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw.

8. Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo:‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’”

9. “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”

10. Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”

11. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e.

Jeremeia 4