18. Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’”
19. Dyma'r brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i yn eu dwylo nhw byddan nhw'n fy ngham-drin i.”
20. “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud trwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.
21. Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd –
22. Bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti:‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di!Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti!Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwddyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’
23. Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”
24. “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di bydd dy fywyd mewn perygl.
25. Petai'r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dywed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni'n dy ladd di!’