Jeremeia 36:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly dyma Barŵch yn gwneud yn union fel roedd Jeremeia wedi dweud wrtho. Aeth i deml yr ARGLWYDD a darllen negeseuon yr ARGLWYDD o'r sgrôl.

9. Roedd pobl Jerwsalem a'r holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis o'r bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda.

10. A dyma Barŵch yn mynd i deml yr ARGLWYDD, i ystafell Gemareia (mab Shaffan, yr ysgrifennydd brenhinol). Roedd ystafell Gemareia wrth iard uchaf y deml wrth ymyl y Giât Newydd. A dyma Barŵch yn darllen yn uchel o'r sgrôl bopeth oedd Jeremeia wedi ei ddweud wrtho.

11. Dyma Michaia (mab Gemareia ac ŵyr i Shaffan) yn clywed Barŵch yn darllen y negeseuon gan yr ARGLWYDD oedd yn y sgrôl.

12. Felly aeth i lawr i balas y brenin, a mynd i ystafell yr ysgrifennydd brenhinol. Roedd swyddogion y llys brenhinol yno i gyd mewn cyfarfod: Elishama yr ysgrifennydd, Delaia fab Shemaia, Elnathan fab Achbor, Gemareia fab Shaffan, Sedeceia fab Chananeia a'r swyddogion eraill.

13. Dyma Michaia yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd Barŵch wedi ei ddarllen yn gyhoeddus o'r sgrôl.

14. Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch i'w nôl ac i ddweud wrtho am ddod â'r sgrôl oedd e wedi ei darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw a'r sgrôl gydag e.

15. “Eistedd i lawr a darllen y sgrôl i ni,” medden nhw. Felly dyma Barŵch yn ei darllen iddyn nhw.

16. Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhw'r negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw.

17. Yna dyma nhw'n gofyn i Barŵch, “Dywed wrthon ni, sut gest ti'r negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?”

Jeremeia 36