Jeremeia 36:28-32 beibl.net 2015 (BNET)

28. “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifennu arni bopeth oedd ar y sgrôl wreiddiol gafodd ei llosgi gan Jehoiacim.

29. Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgi'r sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrio'r wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’

30. Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim, brenin Jwda: ‘Fydd neb o'i ddisgynyddion yn eistedd ar orsedd Dafydd. Pan fydd e farw fydd ei gorff ddim yn cael ei gladdu – bydd yn cael ei daflu i orwedd allan yn haul poeth y dydd a barrug y nos.

31. Dw i'n mynd i'w gosbi e a'i ddisgynyddion a'i swyddogion am yr holl bethau drwg maen nhw wedi eu gwneud. Bydda i'n eu taro nhw (a pobl Jerwsalem a Jwda) hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth, am iddyn nhw ddal i wrthod gwrando.’”

32. Felly dyma Jeremeia'n rhoi sgrôl arall i Barŵch fab Nereia, y copïwr. A dyma Barŵch yn ysgrifennu arni bopeth oedd Jeremeia'n ei ddweud – y negeseuon oedd ar y sgrôl gafodd ei llosgi gan Jehoiacim, brenin Jwda. A cafodd llawer o negeseuon eraill tebyg eu hychwanegu.

Jeremeia 36