16. Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhw'r negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw.
17. Yna dyma nhw'n gofyn i Barŵch, “Dywed wrthon ni, sut gest ti'r negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?”
18. “Ie,” meddai Barŵch, “roedd Jeremeia'n adrodd y cwbl, a finnau wedyn yn ysgrifennu'r cwbl mewn inc ar y sgrôl.”
19. A dyma'r swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a peidio gadael i neb wybod ble ydych chi.”
20. Dyma nhw'n cadw'r sgrôl yn saff yn ystafell Elishama yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl.
21. Dyma'r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i'w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i'r brenin a'r swyddogion oedd yn sefyll o'i gwmpas.
22. Y nawfed mis oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân o'i flaen.
23. Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddai'r brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach a'u taflu i'r tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes oedd y sgrôl gyfan wedi ei llosgi.
24. Wnaeth y brenin a'i swyddogion ddim cynhyrfu o gwbl pan glywon nhw'r negeseuon, a wnaethon nhw ddim rhwygo eu dillad i ddangos eu bod nhw'n edifar.
25. Roedd Elnathan, Delaia a Gemareia wedi pledio ar y brenin i beidio llosgi'r sgrôl, ond wnaeth e ddim gwrando arnyn nhw.
26. A dyma'r brenin yn gorchymyn i Ierachmeël (un o'r tywysogion brenhinol), Seraia fab Asriel a Shelemeia fab Abdeël, arestio Barŵch y copïwr a Jeremeia'r proffwyd. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi eu cuddio nhw.
27. Ar ôl i'r brenin losgi'r sgrôl (sef yr un roedd Barŵch wedi ysgrifennu arni bopeth oedd Jeremeia wedi ei ddweud), dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:
28. “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifennu arni bopeth oedd ar y sgrôl wreiddiol gafodd ei llosgi gan Jehoiacim.
29. Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgi'r sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrio'r wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’