Jeremeia 36:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch i'w nôl ac i ddweud wrtho am ddod â'r sgrôl oedd e wedi ei darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw a'r sgrôl gydag e.

15. “Eistedd i lawr a darllen y sgrôl i ni,” medden nhw. Felly dyma Barŵch yn ei darllen iddyn nhw.

16. Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhw'r negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw.

17. Yna dyma nhw'n gofyn i Barŵch, “Dywed wrthon ni, sut gest ti'r negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?”

18. “Ie,” meddai Barŵch, “roedd Jeremeia'n adrodd y cwbl, a finnau wedyn yn ysgrifennu'r cwbl mewn inc ar y sgrôl.”

19. A dyma'r swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a peidio gadael i neb wybod ble ydych chi.”

20. Dyma nhw'n cadw'r sgrôl yn saff yn ystafell Elishama yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl.

21. Dyma'r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i'w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i'r brenin a'r swyddogion oedd yn sefyll o'i gwmpas.

22. Y nawfed mis oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân o'i flaen.

23. Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddai'r brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach a'u taflu i'r tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes oedd y sgrôl gyfan wedi ei llosgi.

Jeremeia 36