1. Yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
2. “Cymer sgrôl, ac ysgrifennu arni bopeth dw i wedi ei ddweud wrthot ti am Israel a Jwda a'r gwledydd eraill i gyd. Ysgrifenna bopeth dw i wedi ei ddweud ers i mi ddechrau siarad gyda ti yn y cyfnod pan oedd Joseia yn frenin.
3. Pan fydd pobl Jwda yn clywed am yr holl bethau ofnadwy dw i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw, falle y byddan nhw'n stopio gwneud yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud, a bydda i'n maddau iddyn nhw am y drwg a'r pechod maen nhw wedi ei wneud.”
4. Felly dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia i'w helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennu'r cwbl i lawr ar y sgrôl.
5. Wedyn dyma Jeremeia yn dweud wrth Barŵch, “Dw i'n cael fy rhwystro rhag mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD.
6. Felly dos di yno y tro nesa mae pobl trefi Jwda yn mynd i ymprydio. Dw i eisiau i ti ddarllen yn gyhoeddus yr holl negeseuon rwyt ti wedi eu hysgrifennu yn y sgrôl, yn union fel gwnes i eu hadrodd nhw.
7. Falle y gwnân nhw bledio ar yr ARGLWYDD i faddau iddyn nhw, ac y gwnân nhw stopio gwneud y pethau drwg maen nhw wedi bod yn eu gwneud. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn glir ei fod e wedi gwylltio'n lân gyda nhw.”
8. Felly dyma Barŵch yn gwneud yn union fel roedd Jeremeia wedi dweud wrtho. Aeth i deml yr ARGLWYDD a darllen negeseuon yr ARGLWYDD o'r sgrôl.
9. Roedd pobl Jerwsalem a'r holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis o'r bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda.
10. A dyma Barŵch yn mynd i deml yr ARGLWYDD, i ystafell Gemareia (mab Shaffan, yr ysgrifennydd brenhinol). Roedd ystafell Gemareia wrth iard uchaf y deml wrth ymyl y Giât Newydd. A dyma Barŵch yn darllen yn uchel o'r sgrôl bopeth oedd Jeremeia wedi ei ddweud wrtho.
11. Dyma Michaia (mab Gemareia ac ŵyr i Shaffan) yn clywed Barŵch yn darllen y negeseuon gan yr ARGLWYDD oedd yn y sgrôl.
12. Felly aeth i lawr i balas y brenin, a mynd i ystafell yr ysgrifennydd brenhinol. Roedd swyddogion y llys brenhinol yno i gyd mewn cyfarfod: Elishama yr ysgrifennydd, Delaia fab Shemaia, Elnathan fab Achbor, Gemareia fab Shaffan, Sedeceia fab Chananeia a'r swyddogion eraill.