7. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Canwch yn llawen dros bobl Israel,a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf.Gweiddi ac addoli gan ddweud,‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD,achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’
8. ‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd;dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd.Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw;gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant.Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma.
9. Byddan nhw'n dod yn eu dagrau,yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl.Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵrac ar hyd llwybrau gwastad ble byddan nhw ddim yn baglu.Fi ydy tad Israel;Effraim ydy fy mab hynaf.’”
10. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi'r cenhedloedd i gyd,a'i gyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd:“Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl,yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhwfel bugail yn gofalu am ei braidd.”
11. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob.Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw.
12. Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar fynydd Seion.Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda.Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd,ŵyn a lloi bach.Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi ei dyfrio.Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto.
13. Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen,a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd.Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd.Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
14. Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau,a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
15. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae cri i'w chlywed yn Rama,sŵn wylo chwerw a galaru mawr –Rachel yn crïo am ei phlant.Mae'n gwrthod cael ei chysuro,am eu bod nhw wedi mynd.”
16. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau.Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith.Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.