Jeremeia 31:30-34 beibl.net 2015 (BNET)

30. Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.”

31. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.

32. Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.

33. Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.

34. Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.”

Jeremeia 31