Jeremeia 31:20-25 beibl.net 2015 (BNET)

20. Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi!Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i.Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw,dw i'n dal yn eu caru nhw.Mae'r teimladau mor gryf yno i,alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

21. O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti.Gosod arwyddion, a chodi mynegbysti ganfod y ffordd yn ôl.Tyrd yn ôl! Tyrd adrei dy drefi dy hun.

22. Am faint wyt ti'n mynd i oedi,ferch anffyddlon?Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd –mae fel benyw yn amddiffyn dyn!

23. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw,a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem:‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw,boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’

24. Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto.Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.

25. Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino,ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”

Jeremeia 31