Jeremeia 30:5-17 beibl.net 2015 (BNET)

5. “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd i'w glywed;does dim sôn am heddwch!’

6. Ond meddyliwch am hyn:Ydy dyn yn gallu cael babi?Na? Felly pam dw i'n gweld y dynion cryfion yma i gydyn dal eu boliau fel gwraig yn cael babi?Pam mae eu hwynebau nhw i gyd yn wyn fel y galchen?

7. O! Mae'n amser caled ofnadwy!Does erioed gyfnod tebyg wedi bod o'r blaen.Mae'n argyfwng ofnadwy ar bobl Jacob –ac eto byddan nhw yn cael eu hachub.”

8. Yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn, “Bryd hynny bydda i'n torri'r iau sydd ar eu gwar a dryllio'r rhaffau sy'n eu dal yn gaeth. Fydd pobl estron ddim yn feistri arnyn nhw o hynny ymlaen.

9. Byddan nhw'n gwasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw a'r un o linach Dafydd fydda i'n ei wneud yn frenin arnyn nhw.”

10. “Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Peidiwch anobeithio bobl Israel.Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch planto'r wlad bell lle buoch yn gaeth.Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch.Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.

11. Dw i gyda chi, i'ch achub chi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynnylle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,ond wna i ddim eich dinistrio chi.Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu,ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu;alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”

12. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Does dim modd gwella dy friwiau;ti wedi dy anafu'n ddifrifol.

13. Does neb yn gallu dy helpu di.Does dim eli i wella'r dolur;does dim iachâd.

14. Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di.Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti!Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn;rwyt wedi diodde cosb greulon,am dy fod wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.

15. Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau?Does dim modd gwella dy boenDw i wedi gwneud hyn i gyd i tiam dy fod ti wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.

16. Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio.Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth.Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio,a'r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth.

17. Ydw, dw i'n mynd i dy iacháu di;Dw i'n mynd i wella dy friwiau,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Roedden nhw'n dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’.‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.”

Jeremeia 30