21. Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain;bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith.Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod.Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
22. “Byddwch chi'n bobl i mi,a bydda i'n Dduw i chi.”
23. Gwyliwch chi! Mae'r ARGLWYDD yn ddig.Mae'n dod fel storm;fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg.