Jeremeia 29:6-17 beibl.net 2015 (BNET)

6. Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau.

7. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”

8. Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion.

9. Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! Wnes i ddim eu hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD.

10. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain.

11. Fi sy'n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.

12. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando.

13. Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i.

14. Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”

15. “Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi.

16. Felly gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi:

17. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta.

Jeremeia 29