6. “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di yn wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd!
7. Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd.
8. Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr.
9. Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir.”
10. Yna dyma'r proffwyd Hananeia yn cymryd yr iau oddi ar war Jeremeia a'i dorri.
11. A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a'i dorri.’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd.