Jeremeia 25:18-27 beibl.net 2015 (BNET)

18. Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!

19. Yna'r Pharo (brenin yr Aifft) a'i weision a'i swyddogion, pobl yr Aifft i gyd,

20. a'r bobl o dras cymysg sy'n byw yno.Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod.

21. Wedyn pobl Edom, Moab ac Ammon.

22. Brenhinoedd Tyrus a Sidon, a brenhinoedd y trefi eraill ar yr arfordir.

23. Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch.

24. Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch.

25. Brenhinoedd Simri, Elam a Media i gyd.

26. Brenhinoedd y gogledd i gyd, pell ac agos, a phob un gwlad sydd ar wyneb y ddaear.Ac yn olaf bydd rhaid i frenin Babilon ei hun yfed o'r gwpan.

27. “Dywed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’

Jeremeia 25