Jeremeia 25:12-18 beibl.net 2015 (BNET)

12. “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.

13. Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi ei broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.

14. Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”

15. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni.

16. Byddan nhw'n yfed, ac yn stagro yn ôl ac ymlaen. Bydd y rhyfela dw i'n ei anfon i'w cosbi nhw yn eu gyrru nhw'n wallgof.”

17. Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd ble'r anfonodd fi yfed ohoni:

18. Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!

Jeremeia 25