23. “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r ARGLWYDD.“Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?”
24. “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r ARGLWYDD.“Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!”
25. “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi yn ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw.
26. Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo eu hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd?
27. Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.