24. “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r ARGLWYDD, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda wedi bod yn sêl-fodrwy ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd.
25. Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin.
26. A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna ble byddwch chi'n marw.
27. Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.”