Jeremeia 21:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi – ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth.

9. Bydd y rhai sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd pawb sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Babiloniaid sy'n gwarchae ar y ddinas yma, yn cael byw.

10. Dw i wedi penderfynu gwneud drwg i'r ddinas yma yn lle gwneud da. Dw i'n mynd i adael i frenin Babilon ei choncro hi, a bydd yn ei llosgi'n ulw.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

13. Hei, ti sydd wedi dy orseddu uwchben y dyffrynar y byrdd-dir creigiog – dw i yn dy erbyn di!’—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.‘Dych chi'n dweud, “Fydd neb yn gallu ymosod arnon ni yma.Does gan neb obaith dod i mewn aton ni!”

14. Ond dw i'n mynd i roi'r gosb dych chi'n ei haeddu i chi,’—meddai'r ARGLWYDD.‘Bydda i'n rhoi dy balas ar dân,a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi.’”

Jeremeia 21